Adroddiad drafft Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA940-26-13

 

CLA326 - Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol a fwriedir i bobl eu. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy. 286)), fel y’u diwygiwyd.

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

1.       Mae rheoliad 9(2)(a) yn cyfeirio at ‘iaith y darperir ar ei chyfer yng Ngholofn 2‘ yn Atodlen 12.  Nid yw’r golofn honno’n cyfeirio at ieithoedd, ond at ymadroddion penodol mewn gwahanol ieithoedd a heb nodi’r ieithoedd dan sylw.  [Rheol Sefydlog 21.2(vi) - drafftio diffygiol]

 

2.       Mae rheoliad 13(c) yn cyfeirio at ‘asiantau asideiddio a ganiateir gan Reoliad 1333/2008’.  Nid yw’r Rheoliad hwnnw yn cyfeirio at ‘asiantau asideiddio’, felly mae’r ystyr yn ansicr.  [Rheol Sefydlog 21.2(v)  -bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ystyr.]

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Tachwedd 2013